G2G Communities CIC – Sell 2 Wales Case Study

G2G Sell 2 Wales Case StudyG2G Communities is a not for profit, Community Interest Company (CIC) with all profits being reinvested into delivering community projects, training and support. G2G stands for ‘Good to Great’ and we endeavour to build on what individuals, business and industry are currently achieving and take them to the next level. We specialise in training, education and support projects for people and groups of all ages and backgrounds.

G2G Communities CIC has been trading since March 2010 and has enjoyed year on year growth by focusing on supplying a friendly, quality service, which has ensured that G2G is recognised as an approachable and innovative training provider throughout north Wales.

Conveniently based at the Bee and Station Business Centre, Bodfor Street, Rhyl and incorporating the first community based LEGO® Education Innovation Studio in the UK, G2G offers a variety of projects from our 4 modern, comfortable and easily accessible learning centres and currently employs 10 full/part-time staff as well as regularly supporting volunteers in various job roles.

G2G has been an active member of Sell2Wales for over 3 years and has benefited from its services. Tendering through Sell2Wales is a simple and effective way to find new contracts and the events they run are extremely useful for forming business relationships and new partnerships. We also find the contract supplier list useful as this helps to identify other businesses that are keen to form mutually beneficial partnerships in order to deliver their project outcomes.

Our Corporate Values http://www.g2gcommunities.org/g2g-corporate-values/ drive the beliefs and aspirations of the organisation with innovation and quality being key to our success.

Our tips for other organisations:
· research and know your market
· don’t overreach yourself by putting too many categories into the Sell2Wales search
· provide a quality service targeted at the needs of your client
· ensure all staff have the correct ‘mind set’ to ensure you offer great customer service
· ensure everyone believes and lives your corporate values
· involve staff and clients in your business planning process
· take criticism positively and ensure you act immediately upon advice or suggestions in a positive manner

G2G Communities CIC
LEGO Education Innovation Studio/ North Wales Innovation Centre
Bee and Station Business Centre
41 Bodfor Street
Rhyl
Denbighshire
LL181AT
Web: http://www.g2gcommunities.org Facebook: https://www.facebook.com/G2GCommunitiesCIC
Twitter: https://twitter.com/G2GCommunities
————————————————————————-

Mae G2G Communities yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid er elw, gyda’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi mewn cyflwyno prosiectau cymunedol, hyfforddiant a chymorth. Ystyr G2G yw ‘Da i Wych’ (‘Good to Great’) ac rydym yn ceisio adeiladu ar yr hyn y mae unigolion, busnes a diwydiant yn cyflawni ar hyn o bryd a mynd â nhw i’r lefel nesaf. Rydym yn arbenigo mewn prosiectau hyfforddi, addysg a chymorth i bobl a grwpiau o bob oed a chefndir.

Mae G2G Communities CIC wedi bod yn masnachu ers mis Mawrth 2010 ac mae wedi mwynhau twf flwyddyn ar ôl blwyddyn drwy ganolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth cyfeillgar, o ansawdd, sydd wedi sicrhau bod G2G yn cael ei gydnabod fel darparwr hyfforddi hawdd mynd ato ac arloesol ledled y gogledd.

Wedi’i leoli’n gyfleus yng Nghanolfan Fusnes Bee and Station, Stryd Bodfor, y Rhyl ac yn ymgorffori’r Stiwdio Arloesedd Addysg gymunedol LEGO® gyntaf yn y DU, mae G2G yn cynnig amrywiaeth o brosiectau o’n pedair canolfan ddysgu fodern, gyfforddus a hygyrch ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi 10 aelod o staff amser llawn/rhan-amser yn ogystal â chynorthwyo gwirfoddolwyr mewn rolau amrywiol yn rheolaidd.

Mae G2G wedi bod yn aelod gweithgar o GwerthwchiGymru am dros 3 blynedd ac mae wedi cael budd o’i wasanaethau. Mae tendro drwy GwerthwchiGymru yn ffordd syml ac effeithiol o ddod o hyd i gontractau newydd ac mae’r digwyddiadau a gynhelir ganddynt yn eithriadol o ddefnyddiol i sefydlu perthnasoedd busnes a phartneriaethau newydd. Rydym hefyd o’r farn bod y rhestr o gyflenwyr contractwyr yn ddefnyddiol oherwydd bod hyn yn helpu i nodi busnesau eraill sy’n awyddus i sefydlu partneriaethau o fudd i bawb i gyflawni eu canlyniadau prosiect.

Mae ein Gwerthoedd Corfforaethol http://www.g2gcommunities.org/g2g-corporate-values/ yn ysgogi cred a dyheadau’r sefydliad ac mae arloesedd a safon yn allweddol i’n llwyddiant.

Ein hawgrymiadau i sefydliadau eraill:
ymchwiliwch i’ch marchnad a’i deall
peidiwch â gorymestyn eich hun drwy osod gormod o gategorïau yn chwilotwr GwerthwchiGymru
darparwch wasanaeth o safon wedi’i dargedu at anghenion eich cleient
sicrhewch fod gan yr holl staff y ‘meddylfryd’ cywir i sicrhau eich bod yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwych
sicrhewch fod pawb yn credu ac yn byw eich gwerthoedd corfforaethol
cofiwch gynnwys staff a chleientiaid yn eich proses cynllunio busnes
derbyniwch feirniadaeth yn gadarnhaol a sicrhewch eich bod yn gweithredu ar unwaith ar gyngor neu awgrymiadau mewn modd cadarnhaol

G2G Communities CIC
Stiwdio Arloesedd Addysg LEGO/Canolfan Arloesi Gogledd Cymru
Canolfan Fusnes Bee and Station
41 Stryd Bodfor
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL181AT

Check Also

LEGO Education

G2G Communities CIC – WCVA Case Study

Job-seekers and adult learners are developing their skills in science, technology and maths at the …

Proud to work with