Gwyliwch rhag ofn ichi gael braw… mae’r sombïod ar fin cymryd drosodd!
Help?! Mae sombïod yn ymosod ar Cymunedau G2G! Allwch chi ein helpu i oroesi rhag y sombïod? Mae cannoedd ohonynt yn dod o bob cyfeiriad ac mae’r ddaear yn crynu gan fod rhywbeth mawr ar fin cyrraedd… mae eich angen CHI arnom ni!!
Fyddwch chi’n mynd ati i geisio goroesi ar eich pen eich hun neu yn cydweithio gydag eraill er mwyn ffurfio cynghrair. Chwiliwch i ddarganfod arfau ac eitemau i’ch helpu i frwydro yn erbyn galluoedd cryfach. Ewch ati i gwblhau cyrchoedd ac fe allwch chi ennill arfwisg newydd sbon i’ch helpu yn y frwydr.
Maes Sombïod Minecraft
❒ Goroesi ar eich pen eich hun neu Ffurfio Cynghrair ❒ Chwilio i Ganfod Eitemau Newydd ❒ Cwblhau Cyrchoedd er mwyn Ennill Eitemau ❒ 30 Ton o Sombïod ❒ Brwydr Enbyd gyda’r Rheolwr ❒ Ond yn Bwysicaf Oll, cofiwch gael hwyl!
Eich archeb ac Ymweld â ni
Cofiwch gyrraedd 10 munud cyn amser dechrau’r sesiwn er mwyn inni fedru gosod pob dim ichi ac fel na fyddwch yn colli unrhyw ran o’r sesiwn.
Tanysgrifiwch i newyddlen G2G i fod y cyntaf i wybod am glybiau a digwyddiadau ar y gweill.
Amodau a Thelerau
Mae’r gost fesul plentyn sy’n cymryd rhan, ar y dyddiad ac amser a roddwyd. Dim ond lle i hyn a hyn sydd ar gael yn y sesiwn er mwyn gofalu fod pawb yn derbyn y gofal a chefnogaeth gorau posib. Bydd yn rhaid inni dderbyn y taliad llawn 5 diwrnod cyn y sesiwn neu byddwn yn canslo eich sesiwn ac yn ail-werthu eich lle i rywun arall.