Clwb ‘Sombïod’ Minecraft, Dydd Llun Medi’r 4ydd, 1.00yp-3.00yp

£7.50 exc VAT | £9.00 inc VAT

Mae’r Clwb Sombïod Brawychus Minecraft ar Ddydd Llun y 4ydd o Fedi o 1.00yp tan 3.00yp (Sesiwn 2 awr).

Mae’n rhaid i blant fod yn 6 oed neu’n hŷn. Cysylltwch gyda ni ar 01745 350765 os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

Gallwch dalu gyda cherdyn, PayPal neu siec. Os oes gan eich plentyn alergedd neu unrhyw ofyniad arbennig arall, cofiwch roi gwybod inni pan fyddwch yn cadw lle.

Out of stock

Gwyliwch rhag ofn ichi gael braw… mae’r sombïod ar fin cymryd drosodd!

Help?! Mae sombïod yn ymosod ar Cymunedau G2G! Allwch chi ein helpu i oroesi rhag y sombïod? Mae cannoedd ohonynt yn dod o bob cyfeiriad ac mae’r ddaear yn crynu gan fod rhywbeth mawr ar fin cyrraedd… mae eich angen CHI arnom ni!!

Fyddwch chi’n mynd ati i geisio goroesi ar eich pen eich hun neu yn cydweithio gydag eraill er mwyn ffurfio cynghrair. Chwiliwch i ddarganfod arfau ac eitemau i’ch helpu i frwydro yn erbyn galluoedd cryfach. Ewch ati i gwblhau cyrchoedd ac fe allwch chi ennill arfwisg newydd sbon i’ch helpu yn y frwydr.

Maes Sombïod Minecraft

❒ Goroesi ar eich pen eich hun neu Ffurfio Cynghrair ❒ Chwilio i Ganfod Eitemau Newydd ❒ Cwblhau Cyrchoedd er mwyn Ennill Eitemau ❒ 30 Ton o Sombïod ❒ Brwydr Enbyd gyda’r Rheolwr ❒ Ond yn Bwysicaf Oll, cofiwch gael hwyl!

Minecraft Zombie

Eich archeb ac Ymweld â ni

Cofiwch gyrraedd 10 munud cyn amser dechrau’r sesiwn er mwyn inni fedru gosod pob dim ichi ac fel na fyddwch yn colli unrhyw ran o’r sesiwn.

Sut i ddod o hyd inni
Cliciwch yma i wybod mwy am sut i ddod o hyd inni. Mae’r sesiwn yn ein canolfan ddysgu Canolfan Fusnes Cymunedau G2G, Bee & Station, Stryd Bodffor, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1AT. Dewch i’r.
Parcio
Mae maes parcio talu ac arddangos ger Gorsaf Drenau y Rhyl. Fel arall, gallwch barcio am ddim am gyfnod byr, oes oes lle ar y strydoedd gerllaw. Mae gennym ni fannau parcio i bobl anabl. Rhowch wybod inni ymlaen llaw os hoffech chi ddefnyddio ein maes parcio preifat.
Teithio ar Drên
Os ydych chi’n teithio ar y trên, gallwch ddod o hyd inni yn union gyferbyn â Gorsaf Drenau Y Rhyl. Gallwch fynd i Ymholiadau National Rail i weld amseroedd trên ac i wybod mwy.
Teithio ar feic
Gallwch gloi beiciau yn ein maes parcio preifat ar eich risg eich hun.
Gwybodaeth am y Clybiau a Digwyddiadau G2G yn y dyfodol

Tanysgrifiwch i newyddlen G2G i fod y cyntaf i wybod am glybiau a digwyddiadau ar y gweill.

Amodau a Thelerau

Mae’r gost fesul plentyn sy’n cymryd rhan, ar y dyddiad ac amser a roddwyd. Dim ond lle i hyn a hyn sydd ar gael yn y sesiwn er mwyn gofalu fod pawb yn derbyn y gofal a chefnogaeth gorau posib. Bydd yn rhaid inni dderbyn y taliad llawn 5 diwrnod cyn y sesiwn neu byddwn yn canslo eich sesiwn ac yn ail-werthu eich lle i rywun arall.

Proud to work with